Mae’r dyfodol yn bwysig i’r holl fyd

Cyhoeddwyd ar:

Gallai Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol newid sut mae pobl a natur yn cael eu heffeithio yng Nghymru ac ym mhob cwr o’r byd. Gobeithio y bydd yn darparu deddfwriaeth gadarn i ddylanwadu ar ddyfodol cynaliadwy, gan ei gwneud yn ddyletswydd i gyrff cyhoeddus ysgwyddo cyfrifoldeb byd-eang am yr amgylchedd a’i bobl.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’r llywodraeth a’r gwrthbleidiau wedi bod yn drafftio ac yn cyflwyno diwygiadau, ac mae adrannau allweddol o’r Bil wedi cael eu hailosod cyn y drafodaeth lawn ar 10 Mawrth. Mae’r Gynghrair Datblygiad Cynaliadwy eisiau gweld Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio o blaid diwygiadau sy’n pwysleisio camau gweithredu yng nghyswllt ein cyfrifoldebau byd-eang.

Mae datblygu cynaliadwy yn rhywbeth sy’n digwydd mewn cyd-destun byd-eang. Mae Adroddiad Brundtland yn 1987, a boblogeiddiodd y term, yn datgan yn glir bod “y cysyniad o ‘anghenion’, ac yn enwedig anghenion hanfodol tlodion y byd, y dylid rhoi blaenoriaeth lwyr iddynt” yn un o ddau gysyniad craidd, ynghyd â’r cysyniad o gyfyngiadau ar allu’r amgylchedd i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol. Mae casgliad Brundtland yn pwysleisio’r angen am degwch, rhwng ac oddi mewn i genedlaethau.

Mae datblygu cynaliadwy yn galw arnom ni i weithredu er mwyn diwallu anghenion pawb ar y ddaear, drwy ddim ond defnyddio cyfran deg o’r adnoddau hynny y gellir eu defnyddio oddi mewn i gyfyngiadau amgylcheddol.

Ni ddylai hyn fod yn newyddion i’r weinyddiaeth ym Mae Caerdydd. Yn 2009, cyhoeddodd Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned. Roedd yn diffinio datblygiad cynaliadwy yng Nghymru fel cyfrwng i “wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau, gan sicrhau ansawdd bywyd gwell i’n cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol; mewn ffyrdd sy’n hybu cyfiawnder cymdeithasol a chyfleoedd cyfartal; ac mewn ffyrdd sy’n gwella’r amgylchedd naturiol a diwylliannol ac yn parchu ei gyfyngiadaugan ddefnyddio dim ond ein cyfran deg o adnoddau’r ddaear a chynnal ein gwaddol diwylliannol.”

Mae hwn yn llwyddo i gynnwys y syniad o gyfyngiadau amgylcheddol a thrwy’r cysyniad o gyfran deg, yn gosod rôl Cymru yn y cyd-destun byd-eang.

35. Desmond Tutu - A rousing reception from pupils of Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr in Cardiff

Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn flaenoriaeth uchel ar gyfer trechu tlodi byd-eang hefyd. Mae newid hinsawdd yn effeithio ar wledydd tlotaf y byd yn gyntaf, ac yn effeithio’n fawr iawn arnynt. Dylai Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol cadarn bennu llwybr clir i Gymru leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, sy’n achosi’r broblem hon.

Dywedwyd y byddai Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn pennu datblygu cynaliadwy fel yr “egwyddor drefnu ganolog” i’n sector cyhoeddus datganoledig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol a’r GIG.

Cafodd y syniad o Fil groeso brwd gan elusennau a grwpiau ymgyrchu yng Nghymru a oedd yn ceisio rhoi cig ar asgwrn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy, sydd ar ffurf dwy Ddeddf gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r sector datblygu rhyngwladol yng Nghymru wedi bod yn hynod gefnogol i Fil cadarn. Mae sefydliadau rhyngwladol fel Oxfam a Cymorth Cristnogol, yn ogystal â grwpiau o Gymru, fel Masnach Deg Cymru, yn credu bod llawer mwy y gall y sector cyhoeddus yng Nghymru ei wneud i helpu pobl dlotaf y byd. Hoffem sicrhau nad yw cyrff cyhoeddus yn cael prynu cynhyrchion fel dillad sydd wedi’u gwneud mewn siopau llafur rhad peryglus, neu goed o fforestydd mewn perygl. Rydym eisiau gweld arian cyhoeddus yn cael ei wario ar nwyddau masnach deg a chynnyrch moesol arall, gan gynnwys cefnogi amaethyddiaeth a busnesau Cymru.

Mae llesiant pobl Cymru’n gysylltiedig â phobl a’r amgylchedd ym mhob cwr o’r byd. Mae ein tanwydd, ein bwyd, ein papur a’n coed i gyd yn dod o ffynonellau rhyngwladol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud pethau gwych eisoes er mwyn cefnogi datblygu rhyngwladol. Mae gwirfoddolwyr ym mhob cwr o Gymru eisoes yn cyfrannu at fynd i’r afael â thlodi byd-eang, wrth i brosiectau cymuned i gymuned weithio i gefnogi bywoliaeth gadarn ac wrth i feddygon, llawfeddygon a bydwragedd gefnogi prosiectau mewn sefydliadau iechyd partner yn Affrica. Gydag arweiniad Llywodraeth Cymru, Cymru oedd Gwlad Masnach Deg gyntaf y byd yn 2008.

Mae angen Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol cadarn. Mae’r Gynghrair Datblygiad Cynaliadwy yn grŵp o bron i ddeg ar hugain o sefydliadau, sy’n amrywio o elusennau datblygu i fudiadau ffydd a chred, iaith, cymunedol, amgylcheddol a grwpiau merched. Mae Canolfan Datblygiad Rhyngwladol Cymru, a grwpiau datblygu rhyngwladol eraill yng Nghymru, wedi bod yn gweithio fel rhan o’r Gynghrair i gael gwell Bil.

Pan ddaeth Desmond Tutu ar ymweliad â Chymru, roedd yn hael ei ganmoliaeth: “Mae gan bobl Cymru galonnau mawr. Maen nhw’n perthyn i wlad fechan ond yn wir, maen nhw’n gallu cicio fel mul!” Rhaid i ni fynd ati i brofi bod hynny’n wir a chael Aelodau ein Cynulliad i basio Bil cadarn a throi amcanion byd-eang yn gyfraith.

Bydd Cynulliad Cymru yn diwygio ac yn pleidleisio ar y Bil ar 10 Mawrth. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch i gryfhau Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar gael yma.

 

Hannah Sheppard

Canolfan Datblygiad Rhyngwladol Cymru

http://www.hubcymru.org/ @HubCymru

 

Cydnabyddiaeth am y Llun: ‘Llywodraeth Cymru, Rhaglen Cymru o Blaid Affrica, Hydref 2012’

Pennawd: Desmond Tutu yn cael croeso brwd gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd, 2012.