Llunio Cymru’r Dyfodol

Cyhoeddwyd ar:

Dychmygwch Gymru a fyddai’n mesur llwyddiant yn ôl y cydraddoldeb a’r cyfiawnder mae’n ei gynnig i’w holl ddinasyddion. Lle y bydd llawer o swyddi ‘gwyrdd’  yn cael eu creu a lle bydd allyriadau nwy tŷ gwydr wedi gostwng yn syfrdanol fel etifeddiaeth i’n hwyrion a’n hwyresau. Byddai bywyd gwyllt amrywiol yn ffynnu a thlodi yn lleihau.

Byddai’r Gymru hon yn cydnabod ei chyfrifoldeb byd-eang drwy brynu yn unig gan gwmnïau moesegol a Masnach Deg; byddai’n gwobrwyo ei ffermwyr a’i busnesau am eu henw da ‘gwyrdd’. Byddai’n magu ei phlant fel dinasyddion byd-eang tra’n ymfalchïo yn a chyfoethogi ei threftadaeth, ei diwylliant a’i hiaith.

Mae hyn yn agos at y weledigaeth a gynigiwyd i ni gan Lywodraeth Cymru wrth iddi ddadorchuddio ei Bil Cenedlaethau’r Dyfodol [1] yr wythnos hon. Nod y Bil yw gwneud datblygu cynaliadwy yn ‘egwyddor drefniadol ganolog’ llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Os daw yn ddeddf bydd y Bil yn rhoi dyletswydd ar y sector gyhoeddus yng Nghymru – sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru ei hun, cynghorau lleol, Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a chyrff megis Cyfoeth Naturiol Cymru – i gyfrannu tuag at gyflawni nodau ar gyfer Cymru fwy cynaliadwy.

Bydd y Bil hefyd yn sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a fydd yn gallu cynorthwyo a herio sefydliadau cyhoeddus i wneud yn well, ac ymchwilio cwynion a phroblemau.

Mae cyhoeddi’r Bil yn gam pwysig ymlaen i Lywodraeth Cymru, sydd wedi ei chael hi’n anodd cyflawni ei hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy.

Rydym yn falch bod rhai o’r pethau y buom ni’n ymgyrchu drostynt yn rhan o’r Bil, ond byddwn yn galw ar Aelodau Cynulliad i’w wneud yn gryfach cyn iddynt ei basio.

I ni, nid yw datblygu cynaliadwy yn ymwneud â chyfnewid nodau masnachu, economaidd ac amgylcheddol yn erbyn ei gilydd. Mae datblygu cynaliadwy yn golygu cyflawni cyfiawnder cymdeithasol o fewn terfynau amgylcheddol yn fyd-eang.

Yng Nghymru mae’n golygu diogelu ein bioamrywiaeth, ein hiaith a’n diwylliant tra ein bod dim ond yn defnyddio ein cyfran deg o adnoddau’r ddaear.

Rydym yn galw am i ddyletswydd gael ei rhoi ar y sector cyhoeddus datganoledig fel bod yn “rhaid iddo weithredu dyletswyddau er mwyn sicrhau datblygu cynaliadwy”. Bydd gofyniad y Bil i gyrff cyhoeddus weithio tuag at nodau cyffredin yn ddefnyddiol, ond dim ond os bydd y nodau’n rhai cywir a’n bod yn cael digon o flaenoriaeth. Rydym yn pryderu nad yw’r fframwaith nodau presennol a awgrymir yn ddigon da i ddiogelu bywyd gwyllt yng Nghymru, sicrhau ein bod yn gweithredu ar newid hinsawdd na rhoi ystyriaeth i’n heffaith ar bobl o gwmpas y byd.

Rydym hefyd yn croesawu penodiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a ddylai ddod yn hyrwyddwr pwerus dros genedlaethau’r dyfodol, pobl mewn gwledydd sy’n datblygu a’r rheini sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru. Fodd bynnag, hoffem i’r penodiad gael ei wneud gan y Cynulliad, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau ei annibyniaeth.

Dylai’r Comisiynydd fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac yn gallu dal y Llywodraeth a’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyfrif. Dylai ef neu hi fod â’r grym a’r rheidrwydd i ymchwilio a gweithredu ar fethiannau gan lywodraeth a chyrff cyhoeddus i gydymffurfio â darpariaethau’r Bil, ac yn fwy eang.

Mae gennym hefyd y cyfle i ailddiffinio datblygu cynaliadwy ar gyfer Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n hollbwysig bod diffiniad clir o ddatblygu cynaliadwy sydd ag ystyr o fewn y gyfraith ond sy’n taro deuddeg gyda phobl yng Nghymru.

Rydym wedi cynnig diffiniad newydd sy’n adeiladu ar hyn ac sy’n cyd-fynd â phrofiad yng Nghymru:

“Mae datblygu cynaliadwy yn golygu cael cyfiawnder cymdeithasol a dileu tlodi mewn modd y gellir ei barhau’n ddiddiwedd gan holl bobl y ddaear drwy barchu terfynau amgylcheddol.

“Yng Nghymru, mae datblygu cynaliadwy yn golygu hyrwyddo’r iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth Cymru tra’n diogelu a gwella amgylchedd naturiol Cymru a defnyddio dim ond ein cyfran deg o adnoddau’r byd.”

Y Bil yw ein hadduned a’n hetifeddiaeth i genedlaethau’r dyfodol a fydd yn byw yn ein gwlad brydferth ac i bobl o bob rhan o’r byd. Rhaid i ni gael hyn yn gywir.

[1] http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm?act=dis&id=257281&ds=7/2014