“MAE ANGEN CRYFHAU BIL LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL” – MICHAEL SHEEN
Cyhoeddwyd ar:
Mae’r actor enwog Michael Sheen wedi galw am gyfraith gryfach ar gyfer dyfodol Cymru.
Mae Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd yn gosod datblygu cynaliadwy fel “egwyddor ganolog” y sector gyhoeddus yng Nghymru, yn cael ei thrafod gan Aelodau’r Cynulliad wythnos nesaf.
Roedd Michael Sheen, Llysgennad Y Cenhedloedd Unedig yn siaradwr gwadd yn lansiad Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghaerdydd ddydd Llun a soniodd am adeiladu dyfodol gwell i’n plant yng Nghymru ac ar draws y byd.

Yn ddiweddar mae’r llywodraeth a’r gwrthbleidiau wedi drafftio a gosod newidiadau i Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol cyn i’r bil gael ei drafod gan y Cynulliad cyflawn ar ddydd Mawrth 10 Mawrth. Mae’r Gynghrair Datblygu Cynaliadwy eisiau i Aelodau’r Cynulliad bleidleisio o blaid y newidiadau sy’n pwysleisio pwysigrwydd gweithredoedd ar ein cyfrifoldebau byd-eang, yn rhoi dehongliad clir o beth mae datblygu cynaliadwy yn ei olygu ac yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus.
Mae Michael Sheen yn cefnogi amcanion y Gynghrair ar gyfer y Bil, sydd bellach yn gysylltiedig ag Amcanion Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac asesiadau newid hinsawdd.
Meddai Michael Sheen:
“Gallai’r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wella bywydau teuluoedd yng Nghymru ac ar draws y byd. Gallai’r ddeddf newydd helpu i drechu tlodi, gwarchod yr amgylchedd a chefnogi’r Gymraeg a diwydiant Cymreig felly rwy’n gobeithio y bydd ein harweinyddion yn pleidleisio o blaid y newidiadau er mwyn cryfhau’r bil a chreu bil mwy effeithiol. Os gwelwch yn dda rhowch ddyfodol teilwng i Gymru.”
Meddai Anne Meikle, siaradwr ar ran Y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy:
“Rydym yn hynod o falch o gael cefnogaeth Michael Sheen ac rydym yn annog pob parti i wneud y peth iawn a chefnogi’r newidiadau wythnos nesaf. Mae hyn yn hanfodol er mwyn creu Cymru well – a dyfodol cynaliadwy i bawb.”
Ar ddiwedd ail gam y Bil, cytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â’r Cynulliad cyn penodi Comisiynydd ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol, a fyddai â hawliau newydd i gynnal arolygon o gyrff cyhoeddus.
Fe wnaeth y gwrthbleidiau hefyd gefnogi amcan o gynnwys targedau o fewn y Bil gan nad oes rhai ar hyn o bryd.