Rhaid cryfhau cyfraith Cenedlaethau’r Dyfodol i sicrhau’r Gymru a garem

Cyhoeddwyd ar:

Gallai cyfraith newydd gref yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol helpu i drechu tlodi tanwydd, creu swyddi, rhoi hwb i’r economi a helpu i gefnogi ffermwyr o gwmpas y byd, yn ogystal â gwarchod a gwella’r amgylchedd.

Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy, sy’n dwyn ynghyd bron 30 o sefydliadau, o elusennau amgylcheddol a datblygu, i grwpiau ffydd a chredo, cymuned a menywod. [1]

 Mae’r adroddiad – Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: Yr Angen Am Gyfraith Newydd Gref Ac Effeithiol - yn tynnu sylw at rai o’r buddion a allai ddod o orfodi cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru – gan gynnwys Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol a’r GIG – i weithredu i sicrhau datblygu cynaliadwy.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar dri maes lle mae’r Gynghrair yn dweud y bydd pobl yn gweld buddion sylweddol, os yw Aelodau Cynulliad yn cryfhau Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’n datgelu sut y byddai Bil gwell yn cefnogi cartrefi mwy ynni effeithlon a datblygu busnesau gwyrdd. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos sut y byddai cyfraith gryfach yn cefnogi nwyddau a gwasanaethau sydd o fudd i bobl a’r blaned, trwy ddefnyddio pŵer gwario’r sector cyhoeddus.

Mae’r adroddiad yn nodi:

·        Bod mwy na 40,000 o bobl yng Nghymru’n gweithio mewn diwydiannau carbon isel a swyddi amgylcheddol erbyn hyn. Mae’r sector ynni adnewyddadwy a swyddi gwyrdd wedi cynyddu 90% ers 2006, ond mae angen cefnogaeth gan y llywodraeth i gynnal y cyfraddau llwyddiant hyn.

·        Y gallai dull gwell gan gyrff cyhoeddus o wario ein harian gael effeithiau cadarnhaol yma ac mewn gwledydd tramor. Pe bai pob ysgol yng Nghymru’n gwneud mwy o ymdrech i gefnogi Masnach Deg dim ond trwy siopau bwyd a digwyddiadau, byddai hynny’n cynhyrchu gwerth mwy na hanner miliwn o bunnoedd mewn gwerthiannau Masnach Deg, gan gefnogi ffermwyr yn rhai o wledydd tlotaf y byd.

·        Mae bron un o bob tair aelwyd yng Nghymru’n dioddef o dlodi tanwydd. Byddai targedau priodol i drechu tlodi a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn gwthio cyrff llywodraethol yng Nghymru i fuddsoddi mewn gwella cartrefi. Byddai buddsoddi £2.1 biliwn yng Nghymru’n gostwng lefelau tlodi tanwydd 40%, yn cwtogi ar allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn creu mwy na 14,000 o swyddi.

Dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru a Chadeirydd y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy:

 “Mae Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn syniad gwych, ond mae angen iddo fod yn gryfach er mwyn gwneud y gwahaniaeth rydyn ni eisiau ei weld. Roedd yn dda gweld hyn yn cael ei gydnabod yn yr adroddiad yr wythnos ddiwethaf gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad.”

 “Mae ein hadroddiad yn dangos sut y bydd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol fel ei gilydd yn cael budd os ydyn ni’n cryfhau’r gyfraith hon. Mae hynny’n cynnwys adeiladu economi werdd lewyrchus a threchu tlodi tanwydd yma yng Nghymru. Mae hefyd yn golygu gwella bywydau pobl mewn gwledydd tramor, gwarchod byd natur a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

 “Bydd Bil cryfach yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig, gan ddwyn ynghyd ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Bydd hynny yn ei dro yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ac iechyd ein planed.”

Dywedodd yr adroddiad yr wythnos ddiwethaf gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad fod angen nifer o ddiwygiadau er mwyn i’r gyfraith wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Croesawodd y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy’r adroddiad, gan ddweud y gall Aelodau Cynulliad basio Bil cryf ac effeithiol, gyda’r diwygiadau cywir. [2]

 DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

[1] Dyma aelodau’r Gynghrair:

Cymorth Cristnogol, CAFOD, Oxfam, WWF Cymru, Cyfeillion y Ddaear Cymru, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, Sefydliad Bevan, Cynnal Cymru, Disability in Wales and Africa, Cymru Masnach Deg, Hub Datblygu Rhyngwladol Cymru, Life for African Mothers, Love Zimbabwe, RSPB Cymru, Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru, Tearfund, Sefydliad y Merched (WI), Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol, WCVA, Gwarchod Glöynnod Byw Cymru, The Co-operative Cymru/Wales, WSPA, Cadwch Gymru’n Daclus, Ymddiriedolaethau Natur Cymru, Bees for Development, Ymgyrch Cefnogi Nicaragua Cymru, Maint Cymru

I gael mwy o wybodaeth am y Gynghrair gweler www.lluniodyfodolcymru.org

[2] Mae adroddiad y Pwyllgor ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae ymateb Y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy i’r adroddiad ar gael yma.